Trac Môn i ddenu hyd at 130,000 o ymwelwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd digwyddiad sy'n denu hyd at 130,000 yn symud i Gymru'r flwyddyn nesaf.
Bydd Gŵyl Feiciau Modur Thundersprint yn symud o Sir Gaer i Drac Môn yn Aberffraw yn Ebrill 2013.
Dywedodd y trefnwyr fod y digwyddiad "ar gyfer rhai sy' ddim wedi ymddiddori mewn campau moduro yn y gorffennol".
Cafodd y trac, lle gynt oedd gwersyll hyfforddi radar a thaflegrau, ei ailddatblygu ar gost o £3.6 miliwn yn 2007.
'Sbrintiau ceir'
Yno mae pedwar trac gwahanol lle mae cambrau, rhannau cyflym, bachdroeon a chornel ar oleddf o 10%.
Yn 12 metr o led, Trac Môn yw'r trac rasio ail letaf ym Mhrydain ar ôl Silverstone.
Cynhelir sbrintiau ceir, ralïau a diwrnodau trac sy' ddim yn gystadleuol.
Dywedodd Richard Peacock, Cyfarwyddwr Gweithredu Trac Môn: "Rydym ar ben ein digon yn cynnal y digwyddiad yn Nhrac Môn y flwyddyn nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2010
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2005