Sêl bendith Gweinidog i newid ysgol gynradd i fod yn un Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Ysgol gynradd AberteifiFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Ysgol Gynradd Aberteifi yn newid i fod yn ysgol Gymraeg yn hytrach nag un ddwyieithog

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cefnogi cynnig i newid Ysgol Gynradd Aberteifi i fod yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Fe wnaeth yr ysgol, drwy Gyngor Sir Ceredigion, gyhoeddi'r cynnig ffurfiol ym mis Mawrth 2012.

Derbyniodd yr awdurdod lleol wrthwynebiad gan 28 o bobl yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac anfonwyd y dogfennau perthnasol i Lywodraeth Cymru er mwyn i Leighton Andrews benderfynu ar y mater.

Mewn datganiad ddaeth i law BBC Cymru ddydd Iau mae'n dweud bod y cyngor wedi cael cadarnhad ar Dachwedd 9 fod y Gweinidog wedi cymeradwyo'r cynnig a'i fod yn fodlon bod y drefn ymgynghori wedi'i chynnal yn unol â'r gofynion statudol.

Ysgol cyfrwng Cymraeg

Daw'r cynnig i rym ym mis Medi 2013, a bydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno fesul dipyn gyda disgyblion sy'n ymuno â Blwyddyn 1 ym mis Medi 2012.

Bydd y ffrwd sy'n bennaf yn Saesneg yn parhau ochr yn ochr â'r ffrwd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y disgyblion hynny sydd ar hyn o bryd ym Mlynyddoedd 1-6.

Mae Ysgol Gynradd Aberteifi wedi bod yn darparu ffrwd cyfrwng Cymraeg a ffrwd Saesneg i'r disgyblion.

Yn ôl y cyngor, yn ystod y blynyddoedd diweddar mae llai o rieni wedi bod yn dewis y ffrwd Saesneg, ac mae hynny wedi gorfodi'r ysgol i ad-drefnu'r grwpiau dysgu er mwyn medru delio â'r cwymp yn y niferoedd mewn ffordd gynaliadwy.

"Yn sgil hyn penderfynodd yr ysgol y byddai'n rhaid mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor hir, ac felly aethpwyd ati i ymgynghori â'r rhieni ynghylch cynnig i newid o fod yn ysgol dwy ffrwd i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg," meddai'r cyngor.

"Roedd yr ysgol yn credu y byddai hynny'n galluogi'r holl ddisgyblion i ddod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac yn caniatáu i'r ysgol roi trefn fwy sefydlog a chost effeithio ar waith."

Dywedodd y Pennaeth, Robert Jenkins, y bydd y penderfyniad yn galluogi'r ysgol i symud ymlaen a rhoi i'r disgyblion y dechrau gorau posib mewn bywyd.

"Yn ystod yr ymgynghoriad bu'r staff a'r Corff Llywodraethol yn ystyried y mater yn ofalus, ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi cyfraniad y rheini, ein partneriaid lleol ac aelodau o'r gymuned leol."

Deiseb

Dywedodd y Cynghorydd Hag Harris, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Bydd y ffrwd Saesneg yn aros yn ei lle hyd nes y rhoddir y newidiadau ar waith yn llwyr, a bydd unrhyw blant sy'n dechrau yn yr ysgol heb lawer o Gymraeg neu ddim o gwbl yn cael cynnig cyrsiau arbenigol yn y Ganolfan Iaith er mwyn iddynt fedru integreiddio'n llwyr mewn ysgol cyfrwng Cymraeg."

Dywedodd Neil Griffiths, un o lywodraethwyr yr ysgol, sydd wedi gwrthwynebu'r newid ei fod yn siomedig â phenderfyniad y Gweinidog.

Lluniodd ei wraig, Sharon, ddeiseb gyda 1,096 o enwau yn gwrthwynebu'r cynllun.

"Ni chafodd y ddeiseb ei hystyried oherwydd fe gafodd ei chodi cyn i'r cyfnod ymgynghori ddechrau.

"Rydym yn siomedig na chafodd y ddeiseb ei hystyried ac rydym yn siomedig fod 'na ddim dewis o ran pa ffrwd mae disgyblion yn mynd iddynt pan maen nhw'n dechrau yn yr ysgol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol