Jones a Turnbull allan o'r garfan
- Cyhoeddwyd

Fydd y blaenwyr Alun Wyn Jones a Josh Turnbull ddim ar gael ar gyfer gweddill tymor yr Hydref oherwydd anafiadau.
Fe wnaeth y clo Jones anafu ei ysgwydd yn y gêm yn erbyn Ariannin ddydd Sadwrn diwethaf.
Cafodd Turnbull, blaenasgellwr y Scarlets, anaf i'w ben-glin yn ystod yr un gêm a bydd allan am bedair wythnos.
Oherwydd yr anafiadau mae rheolwyr tîm rygbi Cymru wedi gohirio cyhoeddi eu tîm i wynebu Samoa yng Nghaerdydd nos Wener.
Yn ystod y gyfres bydd Cymru hefyd yn wynebu Awstralia a'r Ariannin.
Ond mae disgwyl i Ryan Jones a'r canolwr Ashely Beck fod yn holliach i ymuno â'r garfan.
Bydd y tîm i wynebu Samoa yn cael ei henwi ddydd Mercher.
Mae profion yn dal yn cael eu cynnal ar y canolwr Jame Roberts ar ôl iddo gael cnoc ar ei ben yn erbyn yr Ariannin.
Hefyd mae 'na amheuaeth o hyd am y canolwr Jonathan Davies.
"Dwi'n awyddus i'w gynnwys yn y tîm gan ei fod yn un o'n prif amddiffynwyr a does dim dwywaith i ni ei golli ddydd Sadwrn," ychwanegodd Edwards.
Ar gael i'r dewiswyr hefyd y mae Luke Charteris ar ôl i Perpignan golli o 3-15 yn erbyn Biarritz ddydd Sadwrn.
Ar ôl y gêm yn erbyn Samoa nos Wener fe fydd Cymru yn herio Seland Newydd ar Dachwedd 24 ac Awstralia ar Ragfyr 1.
Mae Cymru yn gobeithio ennill y gêm nos Wener i osgoi colli 5 gêm yn olynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012