Rhyddhau dyn o reiliau yn Llandrindod
- Cyhoeddwyd
Bu diffoddwyr tân wrthi am awr yn rhyddhau dyn o reiliau yn dilyn damwain yn Llandrindod, Powys yn oriau mân bore Mercher.
Fe wnaeth y dyn syrthio ar y ffens metal ar Ffordd Beaufort ychydig wedi hanner nos.
Fe aeth un o'r rheiliau trwy ei goes.
Cafodd gymorth parafeddyg nad oedd ar ddyletswydd.
Yna fe wnaeth dau griw o ddiffoddwyr tân o Landrindod ddefnyddio offer hydrolig a bag awyr i'w ryddhau.
Ar ôl ychydig dros awr llwyddwyd i'w gael yn rhydd ac aed ag ef i Ysbyty Neville Hall yn y Fenni.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol