Llafur yn ennill De Caerdydd
- Published
Mae'r Blaid Lafur wedi dal gafael ar etholaeth Seneddol De Caerdydd a Phenarth mewn is-etholiad.
Cipiodd Stephen Doughty y sedd gyda 9,193 o bleidleisiau, 5,334 yn fwy na'r Ceidwadwyr.
Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn drydydd a Phlaid Cymru yn bedwerydd.
Lefel y pleidleisio oedd 25.65% tra oedd mwy na 60% yn Etholiad Cyffredinol 2010.
Bydd Mr Doughty yn olynu Alun Michael ildiodd ei sedd ar ôl 25 mlynedd er mwyn ymgeisio yn yr etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd.
Curodd yr Aelod Seneddol newydd saith o ymgeiswyr erail.
Dywedodd Mr Doughty, cyn bennaeth Oxfam Cymru, fod ei fuddugoliaeth yn "gondemniad" o bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth y DU, yn enwedig ar faterion fel y cynnig am dâl rhanbarthol.
Galwodd am reolaeth lymach ar y banciau a "gwell teimlad o gymuned a chymdeithas", gyda mwy o bwyslais ar degwch.
Mae Llafur wedi ennill y sedd ers iddi gael ei chreu yn 1983 ac mae'r blaid wedi cynrychioli y rhan ddeheuol o'r brifddinas yn y Senedd yn ddi-dor ers i James Callaghan gael ei ethol gynta' fel Aelod Seneddol yn 1945.
Mae De Caerdydd a Phenarth yn cynnwys ardaloedd fel Grangetown, Trebiwt a Bae Caerdydd, yn ogystal â thre' Penarth ym Mro Morgannwg.
Gyda 78,000 o etholwyr, dyma'r sedd fwya' yng Nghymru o ran pleidlais.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Tachwedd 2012
- Published
- 8 Tachwedd 2012
- Published
- 2 Tachwedd 2012
- Published
- 23 Hydref 2012