Cwmni o China yn addasu cynllun canolfan wyliau
- Cyhoeddwyd

Dywed y cwmni sydd y tu ôl i gynlluniau i greu canolfan wyliau rhyngwladol yn Sir Gaerfyrddin eu bod yn gobeithio cyflwyno cynlluniau newydd y flwyddyn nesaf.
Gorfodwyd Maxhard Ltd i ailfeddwl cynlluniau ar gyfer pentre' ymwelwyr ger Llandeilo ar ôl i adroddiad annibynnol feirniadu cynllun "anaddas".
Cwmni o China yw Maxhard ac maen nhw'n dweud eu bod yn ymrwymedig i'r cynllun, sy'n cynnwys 80 o dai gwyliau a gwesty moethus.
Y gobaith yw cyflwyno'r cynlluniau diwygiedig yn gynnar ym mis Mehefin y flwyddyn nesa'.
"Rydym wedi cael trafodaeth gyda swyddogion yng nghyngor Sir Caerfyrddin ac maen nhw wedi bod yn gymorth mawr," meddai pensaer Maxhard, Julian Castle.
"Maen nhw wedi rhoi rhyw arweiniad i ni ac rydym yn addasu'r cynlluniau."
Cabanau pren
Dywedodd nad oedd modd cyflwyno'r cynlluniau diwygiedig cyn mis Mehefin gan fod rhaid cynnal arolwg ecoleg na fydd modd ei gynnal tan fis Ebrill.
Mae Maxhard eisiau codi gwesty sy'n cynnwys y twr cofrestredig Gradd II sydd ar y safle, bwyty, pwll nofio, campfa ac adnoddau eraill ar y safle.
Bydd yr 80 o dai gwyliau o fewn y tir hefyd.
Mae'r datblygiad yn Neuadd Pantglas yn agos at safle gwyliau presennol sy'n cynnwys cabannau pren, bwyty ac adnoddau hamdden.
Y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn denu 20,000 o ymwelwyr tramor, yn bennaf o China, bob blwyddyn.
Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu beirniadu gan Gomisiwn Dylunio Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru 10 mlynedd yn ôl, gan eu disgrifio fel "anghymesur a diddychymyg".
Y prif faen tramgwydd oedd cynllun y tŷ ei hun ond dywedodd Mr Castle y bydd y feirniadaeth yn cael ei ystyried.
"Rydym yn edrych ar dŷ llai mewn awyrgylch mwy hamddenol," ychwanegodd.
2016
"Rydym wrthi'n rhoi'r manylion at ei gilydd.
"Dwi'n credu y byddwn ni'n cael cymeradwyaeth [swyddogion cynllunio] ond mae'n rhaid cael y manylion yn iawn a'i ailgyflwyno."
Ychwanegodd y bydd 'na fwy o deimlad "naturiol" i'r safle a fydd yn cael ei wneud o goed a deunyddiau lleol fel llechi.
Dywedodd petai'r cyfan yn cael ei gymeradwyo y byddai'r safle wedi ei gwblhau erbyn 2016 "ar y cynhara'".
Eglurodd prif reolwr datblygu Cyngor Sir Caerfyrddin, Graham Noakes, nad oes 'na neb yn ymdrin â'r cais wrth i gynnig newydd gael ei baratoi.
"Mae Maxhard wedi cadarnhau yn ddiweddar eu bod yn symud ymlaen gyda chynlluniau diwygiedig a fydd yn cael eu cyflwyno yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2011