Recriwtio mewn ysgolion: Pwyllgor yn derbyn deiseb
- Cyhoeddwyd

Bydd dogfen yn edrych yn ofalus ar y gwahaniaethau rhwng recriwtio yn y Deyrnas Gyfunol a gwladwriaethau eraill.
Mae pwyllgor y Cynulliad wedi derbyn deiseb am recriwtio'r Lluoedd Arfog mewn ysgolion.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Wlliam Powell AC, fod y ddogfen oddi wrth Gymdeithas y Cymod yn cynnwys llofnodion mwy na 350.
Y nod yw atal y Lluoedd Arfog rhag mynd i ysgolion er mwyn recriwtio.
Mae Mr Powell, Aelod Democratiaid Rhyddfrydol Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Yn amlwg, mae hwn yn fater dadleuol iawn ac rwy'n ddiolchgar i'r prif ddeisebydd, Arfon Rhys, am ddwyn hyn i'n sylw ni.
"Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau er mwyn gofyn am ei farn ac wedi comisiynu dogfen ymchwil am y gwahaniaethau rhwng recriwtio yn y Deyrnas Gyfunol a gwladwriaethau eraill Ewrop."
Straeon perthnasol
- 21 Medi 2012
- 21 Medi 2011
- 6 Awst 2011