Damwain farwol: Arestio dau

Mae'r heddlu wedi arestio dau yrrwr ar ôl i ddyn 72 oed gael ei ladd yn dilyn damwain yng Ngwaun Cae Gurwen nos Fercher.

Bu farw'r dyn lleol yn y fan a'r lle yn dilyn y ddamwain ar Ffordd Brynaman am 4.20pm.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion.

Yn ôl yr heddlu bu'r dyn mewn gwrthdrawiad gyda Vauxhall Corsa glas oedd yn cael ei yrru dan ddyn 19 oed.

Mae'r gyrrwr wedi cael ei arestio.

Hefyd cafodd gyrrwr car Proton du 25 oed ei arestio.

Bu'r ffordd y tu allan i glwb rygbi Cwmgors ar gau am gyfnod yn dilyn y ddamwain.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 01792 456999 est 88331.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.