Alun Wyn Jones angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Mae'n bosib bydd y clo Alun Wyn Jones yn colli dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w ysgwydd.
Cafodd ei anafu yn hanner cyntaf y gêm rhwng Cymru a'r Ariannin ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae'n debyg na fydd y clo 27 oed yn gallu chwarae eto am hyd at 16 wythnos.
Bydd angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
Oherwydd yr anaf fe fydd Jones, capten y Gweilch, hefyd yn colli gemau Cwpan Heineken.
Bydd Cymru yn wynebu Samoa nos Wener yn Stadiwm y Mileniwm.
Fe fyddan nhw hefyd yn herio Seland Newydd ac Awstralia dros yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2012
- 13 Tachwedd 2012
- 10 Tachwedd 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol