Cymorth i atal potswyr ar afonydd y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae mudiad pysgota yn annog ei haelodau i wirfoddoli er mwyn helpu Asiantaeth yr Amgylchedd i fynd i'r afael â photswyr.
Yn ôl Alan Cuthbert o Ymgyrch Diogelu Pysgodfeydd Cymru mae pysgota anghyfreithlon yn broblem fawr, yn niweidio poblogaeth pysgodfeydd ac yn niweidio'r diwydiant pysgota.
Dywed Mr Cuthbert fod hyn yn broblem ledled Cymru ac yn benodol yn y gogledd.
Nawr mae o am i'r pysgotwyr helpu drwy fod yn bâr o lygaid ychwanegol i gynorthwyo beilïaid yr Asiantaeth.
Dydd Gwener nesa' yn Ninbych fe fyddan nhw'n lansio llawlyfr sy'n cynnig cyngor i'w haelodau.
Dywedodd mai llond llaw o feilïaid oedd yn cadw llygad ar dros 5000 o filltiroedd o afonydd yn y gogledd.
Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod yn croesawu cymorth y cyhoedd wrth geisio atal pysgota anghyfreithlon.
Maen nhw'n dweud fod yna 7 beili yn gwarchod y gogledd ond yn cydnabod fod potsian yn broblem.
Croesawu'r apêl
"De ni ddim am i bysgotwyr geisio taclo'r potsiwr," meddai Mr Cuthbert.
"Yr unig beth ddylid ei wneud ydi nodi'r peth, yna mynd adre sgwennu nodyn o'r hyn ddigwyddodd a'i anfon i'r Asiantaeth."
"Maen nhw'n casglu data er mwyn trio blaenoriaethau a thargedu afonydd."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth eu bod yn cydweithio gyda physgotwyr ac yn croesawu'r apêl am wybodaeth.
"Mae yna 100,000 o bobl sydd â thrwyddedau i bysgota gyda gwialen bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n amhosib i'r Asiantaeth fynd i daclo'r broblem o bysgota anghyfreithlon ar ben ei hun."
Dywedodd Mr Cuthbert ei fod o'n arfer pysgota ar lecyn milltir o hyd ar un o afonydd y gogledd.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf dwi wedi gweld pobl amheus yn dianc yn gyflym ar o leiaf bedwar achlysur.
"Rwyf hefyd wedi gweld olion cemegau. Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i ladd ocsigen yn y dŵr, gyda'r canlyniad o ladd cannoedd os nad miloedd o bysgod.
"Rwyf hefyd wedi clywed gan ffynonellau dibynadwy iawn, o rwydi yn cael eu rhoi ar hyd afonydd ac yn casglu popeth sy'n byw yn yr afon - gan greu difrod mawr i drefn ecolegol."