Cymorth i deuluoedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd 'na gefnogaeth ar gael i deuluoedd yng Nghymru i'w helpu i ddelio â phroblemau sy'n cael eu hystyried yn rhai cymhleth.
Mae cynllun "Teulu Ni" yn canolbwyntio ar ardaloedd gwledig yng Ngwynedd.
Y bwriad ydi gwella sgiliau rhieni wrth iddyn nhw fagu eu plant a helpu gyda materion fel camymddygiad ac anghenion addysgol arbennig.
Y Comisiynydd Plant, Keith Towler, wnaeth lansio'r prosiect £900,000 ym Mhortmeirion ddydd Iau.
Derbyniodd Mantell Gwynedd, y mudiad sy'n arwain y prosiect, £863,832 gan Gronfa'r Loetri Fawr.
Cydweithio
Fe fydd Mantell Gwynedd, sy'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol, yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig y gefnogaeth.
Ymhlith y rhai fydd yn cynnig cymorth y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd.
Bydd y prosiect hefyd yn integreiddio cynlluniau eraill a fydd yn helpu sgiliau rhieni fel gwella perthynas tadau gyda'u plant.
Mae 'na gyngor ar gael o hawliau rhieni yn y llys, gwasanaeth cwnsela, cefnogaeth i deuluoedd weithio gydag ysgolion i ddarparu addysg arbennig angenrheidiol.
Drwy ddefnyddio adnoddau naturiol Eryri fe fydd Teulu Ni yn gwella iechyd teuluoedd drwy ddatblygu sgiliau rhieni mewn garddio, tyfu llysiau, pysgota, cerdded a dringo.