Yr hyfforddwr nofio Billy Pye yn hyfforddwr y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Yr hyfforddwr nofio Paralympaidd Billy Pye gafodd ei enwi fel Hyfforddwr Chwaraeon Cymru'r flwyddyn.
Mae Pye yn gyfrifol am hyfforddi rhai o'r nofwyr yn Abertawe sy'n cynnwys Ellie Simmonds a enillodd ddwy fedal aur, un arian ac un efydd yn y Gemau Paralympaidd eleni.
Gwnaeth y cyhoeddiad mewn yng Nghaerdydd nos Fercher i ddathlu camp yr hyfforddwyr.
"Mae ei lwyddiant yr ydym i gyd yn Chwaraeon Cymru yn falch iawn ohono," meddai Cadeirydd Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllist
"Mae Billy yn cael ei weld fel un o'r hyfforddwyr chwaraeon Prydeinig gorau drwy'r byd.
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn fythgofiadwy i chwaraeon yng Nghymru ac mae'n braf gallu cydnabod yr unigolion yma sydd wedi cyfrannu'n allweddol ar lefel lleol a chenedlaethol."
Fe ddaeth y nofwyr y mae Pye yn eu hyfforddi yn ôl o'r Gemau yn Llundain gydag 11 medal, gan gynnwys dwy aur a dwy record byd.
Yn ogystal â Simmonds fe wnaeth Stephanie Millward ennill pum medal, pedair arian ac un efydd ac fe gafodd Sam Hynd a Matthew Whorwood fedal efydd yr un.
Cafodd Warren Gatland, hyfforddwr rygbi Cymru, gydnabyddiaeth arbennig am lwyddiant y tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo Chwaraeon Cymru i fuddsoddi £5 miliwn y flwyddyn mewn hyfforddi lleol ac elitaidd drwy Gymru.
Mae'r corff wedi addo, gyda'u partneriaid, i ddyblu nifer yr hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghymru i tua 250,000 erbyn 2016, tua 10% o'r boblogaeth.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2012
- 29 Awst 2012
- 31 Rhagfyr 2008
- 10 Medi 2012
- 18 Chwefror 2009