M4 ar gau wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer
- Cyhoeddwyd
Y tagfeydd wedi i lori droi drosodd ger cyffrordd 47 Penllergaer
Mae'r M4 wedi cau ar ôl i lori droi drosodd ger Abertawe.
Mae bwyd parod wedi gollwng o'r lori ger cyffordd 47 Penllergaer.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar y lon ddwyreiniol ger y ffordd ymadael.
Does 'na ddim adroddiadau am anafiadau ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Mae disgwyl i'r ffordd barhau ar gau tra bod y bwyd a'r lori yn cael ei symud.
Mae 'na adroddiadau bod tagfeydd yn mynd yn ôl hyd at gyffordd 48 am Lanelli a'r Hendy.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol