Yr heddlu yn apelio am wybdoaeth o gynnau tanau yn fwriadol
- Cyhoeddwyd
Bu farw dynes oedrannus yn yr ysbyty ar ôl mynd yn sâl wedi achos o gynnau tân yn fwriadol ar gar yn Wrecsam ddydd Mawrth.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio o'r newydd am wybodaeth wedi i Dorothy Dudley-Smith, 78 oed farw.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar gerbyd yn ardal Hightown o'r dref.
Dydi'r heddlu ddim yn sicr a ydi'r digwyddiad diweddara' yma yn gysylltiedig â nifer o achosion o gynnau tanau bwriadol yn ddiweddar.
Mae llanc wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu wrth i ymholiadau barhau.
"Gallwn gadarnhau bod y ddynes wedi marw yn Ysbyty Wrecsam Maelor," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Mark Hughes.
"Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad bore Mawrth yn The Orchards a bod y ddynes wedi ei chludo i'r ysbyty wedi'r tân.
"Rydym yn aros am ganlyniadau archwiliad post mortem."
Achosion diweddar
Dywedodd yr heddlu bod mwy o blismyn ar ddyletswydd o amgylch ardal Parc Caia wedi ymosodiadau o gynnau tanau ceir yn fwriadol.
Rhwng Ionawr 1 a Thachwedd 4 2012 roedd 23 o'r 25 achos o geir ar dân ym Mharc Caia eu cynnau yn fwriadol.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 300 o achosion o danau wedi eu cynnau yn fwriadol yn y sir rhwng Ionawr 1 a Hydref 31 2012.
Mae Cyngor Sir Wrecsam yn cefnogi galwad yr heddlu am wybodaeth wedi'r ymosodiad diweddara.
"Mae'r achos yma yn un pryderus iawn a dwi'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu ar unwaith," meddai'r cynghorydd Hugh Jones, sydd â chyfrifoldeb am gymunedau ar y cyngor.
"Mae tân bwriadol yn ddifrifol ac mae'r achos yma wedi cael cryn effaith ar y gymuned."
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.