Cerddwr yn sefydlog yn yr ysbyty wedi damwain ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr 36 oed mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Treforys, Abertawe, wedi damwain ddifrifol ddydd Iau.
Roedd y ddamwain am 5:15pm wrth gyffordd Ffordd Afan a Heol Fictoria ym Mhort Talbot.
Car Mercedes arian darodd y cerddwr.
Dylai unrhyw dystion ffonio'r heddlu ar 01792 456 999 Estyniad 88331 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.