Canran isel yn pledleisio yn etholiadau comisiynwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'r etholiad i benodi comisiynwyr heddlu a throsedd cyntaf Cymru wedi ei nodi gan ddifaterwch yr etholwyr.
Fe wnaeth 344,213 o bobl bleidleisio, 14.9% o'r rhai sy'n gymwys.
Gan mai dyma'r etholiadau cyntaf does dim i'w gymharu ond mae'r nifer a bleidleisiodd llawer yn is nag mewn etholiadau cyffredinol.
Yn ôl adroddiadau, roedd 'na un orsaf bleidleisio yng Nghasnewydd lle wnaeth neb bleidleisio.
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi dweud y byddan nhw'n ymchwilio i'r nifer isel o bleidleiswyr tra bod David Cameron, y Prif Weinidog, wedi dweud y bydd gan y Comisiynwyr fandad.
Dywedodd Kay Jenkins o'r comisiwn, bod canran y pleidleiswyr yn bryder i unrhyw un sy'n credu mewn democratiaeth.
Mae'r corff yn anghytuno gyda nifer o benderfyniadau gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU.
Ym Merthyr Tudful roedd llai na 12% wedi bwrw eu pleidlais ac roedd 'na 4,456 o bapurau pleidleisio wedi eu difrodi yn ne Cymru yn unig.
Canlyniadau
Toc cyn 1pm y daeth y canlyniad cyntaf, wrth i'r Ceidwadwr Christopher Salmon ennill y ras rhyngddo fo a Christine Gwyther o'r Blaid Lafur i fod yn gyfrifol am ardal Heddlu Dyfed Powys.
Enillodd gyda mwyafrif o 1,114 gyda 16.4% yn pleidleisio o fewn yr ardal.
Daeth yr ail ganlyniad tua awr yn ddiweddarach, gyda Winston Roddick yn ennill ar yr ail bleidlais yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd yr ymgeisydd annibynnol gyfanswm o 35,688 o bleidleisiau, gyda'r ymgeisydd Llafur Tal Michael yn ail gyda 27,128 pleidlais.
Roedd 15.4% o etholwyr yr ardal wedi bwrw eu pleidlais, gan amrywio o 12.24% yn Wrecsam i 17.85% ar Ynys Môn.
Fe wnaeth 14.3% bleidleisio yn ardal Heddlu Gwent gan ethol Ian Johnston yn gomisiynydd wedi'r ail bleidlais.
O fewn ardal Heddlu De Cymru, y llu mwya' yng Nghymru, roedd nifer y rhai a bleidleisiodd yn 15.1%
Roedd y nifer isa ym Merthyr (11.9%) a'r mwya' ym Mro Morgannwg (19.62%).
Bu ail gyfri yno hefyd rhwng Alun Michael a'r ymgeisydd annibynnol, Michael Baker.
Ond y cyn-weinidog Llafur enillodd gyda 54.4% o'r bleidlais.
'Llais y Bobl'
Gwrthododd Cyngor Casnewydd enwi'r orsaf bleidleisio lle na wnaeth neb bleidleisio ond mae BBC Cymru yn cael ar ddeall mai ward Betws oedd hi.
Dywedodd Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, y byddai mandad gan y comisiynwyr i weithredu "llais y bobl" beth bynnag oedd nifer y pleidleiswyr.
Ac fe gafodd yr un farn ei lleisio gan David Cameron.
Mae Stephen Brooks, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol yng Nghymru, wedi beirniadu'r modd mae Llywodraeth San Steffan wedi cynnal yr etholiadau.
"Mae'r etholiadau yma wedi bod yn gyfres o gamgymeriadau o'r cychwyn," meddai.
Ac fe ddywedodd y cyn-weinidog heddlu, Alun Michael, oedd yn ymgeisydd Llafur yn Ne Cymru, bod y modd y cafodd yr etholiadau eu trefnu "yn warthus."
Roedd AS Caerffili, Wayne David, wedi trydar fod "rhai blychau pleidleisio'n wag".
Mae'r etholiad ar gyfer y swyddi newydd ym mhob rhan o Gymru a Lloegr ac eithrio Llundain.
Y comisiynwyr fydd yn gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.
Y System Bleidleisio Atodol gafodd ei defnyddio, wrth i'r pleidleiswyr nodi eu dewis cyntaf ac ail ddewis.
Ond yn ardal Heddlu Dyfed Powys, roedd hi'n gyntaf i'r felin gan fod dau ymgeisydd.
Fe fydd y comisiynwyr yn disodli'r awdurdodau heddlu ac yn gyfrifol am y materion o ddydd i ddydd.