Agor cwest wedi tân car bwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth dynes gafodd ei tharo'n wael wedi achos o losgi car yn fwriadol yn Wrecsam.
Casglodd archwiliad post mortem fod Dorothy Dudley-Smith, 78 oed o ardal Hightown yn Wrecsam, wedi marw o strôc.
Cafodd ei char ei roi ar dân yn gynnar fore Mawrth.
Dyw Heddlu Gogledd Cymru ddim yn sicr a oedd hyn yn gysylltiedig â chyfres o danau ceir bwriadol yn Wrecsam.
Mae person ifanc wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau â'u hymchwiliadau.
Ddydd Gwener cafodd cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Mrs Dudley-Smith gan grwner dros-dro gogledd ddwyrain Cymru, John Gittins.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ddydd Iau yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl.
Bydd y cwest yn parhau wedi i'r heddlu ymchwilio mwy.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Straeon perthnasol
- 15 Tachwedd 2012