Chwilio am dri wedi ymosodiad ym Mhort Talbot
- Published
Mae 'na ymchwiliad wedi cychwyn wedi ymosodiad difrifol ar ddyn ym Mhort Talbot nos Iau.
Dywedodd yr heddlu fod tri o ddynion wedi ymosod ar ddyn 41 oed yn ardal Ffordd Southville tua 10:25pm.
Fe ddisgynnodd y dyn i'r llawr ar ôl cael ei gicio yn ei fol a pharhaodd y tri i'w bwnio a'i gicio yn ei ben a'i gorff.
Rhedodd y tri i ffwrdd a doedd y dyn ddim yn siwr i ba gyfeiriad.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforus ble y cafodd lawdriniaeth oherwydd anafiadau trywanu i'w frest.
Mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Ac mae'n debyg bod y tri'n gwisgo topiau gyda'r cwfl i fyny a sgarffiau dros eu hwynebau.
Dywedodd Ditectif Sarjant David Butt o Heddlu Castell-nedd Port Talbot: "Mae'r ymosodiad wedi digwydd mewn ardal ble mae 'na nifer o gartrefi.
"Rwy'n apelio at unrhyw un yn yr ardal a allai fod wedi gweld rhywbeth neu a allai fod â gwybodaeth fyddai'n arwain at adnabod yr unigolion i gysylltu â ni."
Gall unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.