Heddlu Gwent yn apelio am lofrudd sydd wedi torri ei drwydded

  • Cyhoeddwyd
Jason soalFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Jason Soal ei garcharu yn 1992 cyn cael ei ryddhau yn 2004

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i ganfod llofrudd sydd wedi ei ail-alw i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.

Cafodd Jason Soal, 37 oed - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Jay Soal a Jason Brindley Davies - ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi 1992.

Cafodd ei ryddhau yn 2004 ar drwydded.

Mae ganddo gysylltiadau â Chwm Rhymni a Risga.

Dywedodd yr heddlu y dylai unrhyw un sydd yn ei weld gadw draw oddi wrtho a chysylltu â nhw yn syth.

Mae o yn 5 troedfedd 10 modfedd o daldra ac o faint canolig.

Mae ganddo lygaid brown a gwallt byr du.

Mae ganddo graith ar ochr dde ei wddw ac ar ei law dde ac mae ganddo datŵs ar ei fraich o ddraig a phlu mewn inc du.

Os oes unrhyw un yn ei weld neu yn gwybod lle mae o, fe ddylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol