Cerddwr 72 oed wedi marw
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Cyrhaeddodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali
Bu farw cerddwr 72 oed ddydd Gwener ar ôl iddo syrthio 200 troedfedd yn Eryri.
Roedd y dyn yn cerdded gyda phump o gyfeillion pan syrthiodd ar lethr ar fynydd Y Garn.
Cafodd naw aelod Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn eu hanfon o Borthmadog ychydig cyn 2pm.
Cyrhaeddodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali ac aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Wedyn cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2012
- 10 Awst 2012
- 30 Awst 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol