Pennaeth iechyd 'yn fwy hyderus'
John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dweud ei fod yn "fwy hyderus" y bydd y byrddau iechyd yn cael eu mantolen ariannol mewn trefn er gwaethaf pryder pwyllgor y Cynulliad.
Eisoes mae ffigyrau swyddogol yn awgrymu nad yw'r byrddau'n cyrraedd eu targedau arbedion.
Ond dywedodd y prif weithredwr, David Sissling, fod Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda'r byrddau i ddadansoddi'r diffygion a bod cynlluniau manwl wedi eu paratoi i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Dwi'n fwy hyderus o lwyddo heb beryglu ansawdd gofal i gleifion," meddai wrth BBC Cymru.
"Mae angen cadw'r problemau ariannol mewn cyd-destun - canran fach yw'r broblem yng nghyd-destun y gyllideb iechyd gyfan."
Dywedodd fod mwy o alwadau annisgwyl, yn enwedig at gyfer gofal i'r henoed.
Addasu
"Mae na gynnydd o 10% yn y galw am wasanaethau ar gyfer pobol dros 85 oed," meddai.
Yr wythos ddiwethaf mewn adroddiad am Gyllideb Ddrafft y llywodraeth mynegodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad eu pryderon nad oedd y byrddau'n cyrraedd eu targedau arbedion.
Ond dywedodd Mr Sissling fod y Gweinidog Iechyd, Lesley Grifiths, yn ystyried sut i addasu sut yr oedd y llywodraeth yn dosbarthu arian ar gyfer iechyd.
Mae adolygiad yn debyg o argymell fod cyllidebau yn cael eu paratoi am gyfnod o dair blynedd yn lle o flwyddyn i flwyddyn.
Mantais hynny fydd caniatáu i'r byrddau gyllunio am gyfnod tymor hir.
Mae Mr Sissling wedi amddiffyn y Fforwm Clinigol. Wythnos yn ôl roedd ffrae oherwydd defnydd o gyngor roddwyd i fyrddau iechyd y gogledd cyn ailstrwythuro.
Yn briodol
Hawliwyd fod cyngor proffesiynol y fforwm wedi cael ei addasu wedi ymyrraeth cadeirydd bwrdd iechyd.
Roedd y gwrthbleidiau'n mynnu fod rôl annibynnol y fforwm wedi ei thanseilio ond dywedodd Mr Sissling fod trafodaethau rhwng y bwrdd a'r fforwm yn briodol.
Pan ofynnwyd a oedd ganddo ffydd yn hygrededd y cyngor gwreiddiol, ei ateb oedd: "Oes, mae'n gyngor safonol.
"Pwrpas y fforwm yw cynorthwyo'r byrddau i wneud penderfyniadau priodol."
Straeon perthnasol
- 13 Tachwedd 2012
- 13 Tachwedd 2012
- 11 Tachwedd 2012