BBC Cymru Fyw

Abertawe 2-1 Newcastle

Published
image captionMichu oedd â'r cyffyrddiad ola'

Mae'r Elyrch wedi trechu cewri Newcastle ym Mharc St James, y tro cynta' ers 1980.

Y sgôr oedd 2-1 i Abertawe.

Pablo Hernandez fanteisiodd ar glirio anniben golgeidwad Newcastle Tim Krul wedi 58 o funudau a Michu oedd â'r cyffyrddiad ola'.

Dair munud cyn y diwedd rhwtodd De Guzman halen i mewn i'r briw wedi i Krul atal cynnig Danny Graham.

Peniodd Demba Ba's i'r Saeson ychydig cyn y chwib ola'.

Hwn oedd un o'r perfformiadau gorau o dan Michael Laudrup ac mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn codi i'r 10fed safle.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 2-1 Wigan