Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw

Kenny Morgans Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Kenny Morgans ei ganfod yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren wedi trychineb Munich

Mae un o gyn-chwaraewyr Manchester United, y Cymro Kenny Morgans, wedi marw yn 73 oed.

Roedd yn un o oroeswyr trychineb Munich yn 1958.

Wedi ei eni yn Abertawe, gadawodd yr ysgol yn 1955 ac ymuno gydag United.

Dwy flynedd yn ddiweddarach fe wnaeth chwarae am y tro cyntaf i'r prif dîm yn erbyn Caerlŷr.

Cafwyd hyd iddo yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren ym Munich gan ddau newyddiadurwr bum awr wedi i'r chwilio ddod i ben.

Wedi iddo wella o'i anafiadau fe wnaeth parhau gyda'i yrfa pêl-droed.

Gadawodd Old Trafford yn 1961 ar ôl chwarae 23 gwaith i'r tîm cyntaf.

Dychwelodd i Gymru ac ymuno gydag Abertawe cyn gorffen ei yrfa yn chwarae i Gasnewydd.

Mewn datganiad dywedodd clwb Manchester United bod Mr Morgans wedi cael ei daro'n wael ddydd Sadwrn cyn marw yn yr ysbyty.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.