Newydd wedd i neuadd dref yn Nhreffynnon
- Cyhoeddwyd
Mae gorsaf heddlu wedi'i hagor mewn hen neuadd dref sydd hefyd yn gartref i gyrff sector cyhoeddus fel rhan o ymdrech i adfer canol dref.
Bydd oddeutu 12 plismon yn rhannu'r adeilad yn Nhreffynnon gyda swyddogion Cyngor Sir y Fflint ymysg eraill.
Y bwriad yw canoli gwasanaethau a cheisio denu mwy o ymwelwyr i ganol y dref.
Mae'r cyngor sir wedi addo creu cynlluniau tebyg yn y Fflint, Cei Connah, Bwcle, Yr Wyddgrug a Saltney.
Canolfan Byd Gwaith
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi symud o'r orsaf yn Heol Helygain yn Nhreffynnon i Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu yng nghanol y dref.
Bydd y ganolfan ar agor chwe diwrnod yr wythnos gan gynnwys boreau Sadwrn, a bydd ar gael hefyd i sefydliadau lleol gynnal cyfarfodydd a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau lleol.
Caiff y Ganolfan ei hagor yn swyddogol gan y Cynghorydd Carolyn Thomas, Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint a Mark Polin, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, ddydd Gwener Tachwedd 30.
Mae'r cyngor yn cynnal trafodaethau gan obeithio agor Canolfan Byd Gwaith yn yr adeilad.
Ar hyn o bryd mae'r swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith agosaf yn Y Fflint a'r Rhyl.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU eu bod yn ystyried y cynnig
'Cyfleuster newydd modern'
Bydd un o grwpiau Cymunedau'n Gyntaf Sir y Fflint hefyd wedi'i leoli yn y ganolfan.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd ei fod wedi derbyn rhan o'r £1.7 miliwn a ddyfarnwyd i'r cynllun yn y sir i wella cyflogaeth, addysg a hyfforddiant i bobl leol.
Mae Coleg Glannau Dyfrdwy hefyd wedi'i leoli yn y ganolfan gan ddarparu cyrsiau ar gyfer pobl leol a chyflogwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr aelod cabinet dros Reolaeth Corfforaethol: "Bydd hwn yn gyfleuster newydd modern fydd yn gwella'r ffordd y darperir gwasanaethau i drigolion Treffynnon.
"Yn ychwanegol at wella mynediad pobl leol at wasanaethau allweddol y maent yn dibynnu arnynt, rydym hefyd yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn hybu adfywiad canol Treffynnon."
Straeon perthnasol
- 9 Medi 2011
- 20 Awst 2011
- 10 Rhagfyr 2010