Asbestos mewn ysgol yng Nghwmcarn 'yn peryglu iechyd'
- Published
Dywed adroddiad bod lefelau asbestos mewn ysgol a gaeodd yn ddisymwth fis diwethaf ddeg gwaith y lefelau derbyniol.
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau wedi i weithwyr ddarganfod asbestos ym mhrif adeilad yr ysgol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn pob ysgol i baratoi adroddiad ar lefelau asbestos.
Dangosodd arolwg i ysgol Cwmcarn bod yr asbestos yn "risg difrifol i iechyd" ac y dylid ei dymchwel, gan ategu archwiliad blaenorol.
Dywed yr adroddiad gan gwmni Santia Asbestos Management Limited y gallai'r asbestos yn y nenfwd fod wedi cael ei chwythu o gwmpas yr adeilad gan y sustem awyru.
Gallai gwaith ar sustem drydan yr ysgol, symud teiliau'r nenfwd yn y gwynt a hyd yn oed disgyblion yn crafu desgiau a chadeiriau ar loriau'r ystafelloedd fod wedi achosi niwed i'r byrddau asbestos, medd yr adroddiad.
Anymarferol
Dywedodd y cwmni yn yr adroddiad: "Rydym o'r farn nad yw'n ymarferol i barhau i gadw'r ysgol ar agor yn ei chyflwr presennol o weld y risg i'r rhai sy'n defnyddio'r adeilad."
Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud na fyddai'n ymarferol i adnewyddu'r adeilad, gan dynnu'r holl asbestos, o ystyried y gwelliannau diogelwch eraill a fyddai eu hangen.
Mae clinigau iechyd arbennig wedi cael eu sefydlu ar gyfer disgyblion a rhieni'r ysgol, a gaeodd ar ddydd Gwener Hydref 12.
Mae'r disgyblion bellach yn cael eu haddysgu 12 milltir i ffwrdd yng nghampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy am weddill y flwyddyn addysgol.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Tachwedd 2012
- Published
- 1 Tachwedd 2012
- Published
- 30 Hydref 2012
- Published
- 23 Hydref 2012
- Published
- 19 Hydref 2012
- Published
- 16 Hydref 2012
- Published
- 16 Hydref 2012
- Published
- 15 Hydref 2012
- Published
- 15 Hydref 2012