Gwrthdrawiad: Un yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fore Mawrth.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig cyn 8:00am wedi adroddiadau bod pedwar car a lori sbwriel wedi bod mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Gyswllt Pentwyn, yr A4232.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod un person wedi cael ei dorri allan o'i gerbyd gan ddefnyddio offer arbennig.
Mae'r gwrthdrawiad wedi achosi oedi rhwng yr A4232 a'r A48, Rhodfa'r Dwyrain, ym Mhontprennau.