Gwadu achosi marwolaeth dyn 22 oed o Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Caernarfon mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dyn 19 oed o Fangor ar gyhuddiad o achosi marwolaeth dyn 22 oed o Ynys Môn drwy yrru'n beryglus.
Union flwyddyn yn ôl, ar Dachwedd 20, cafodd Tomos Wyn Roberts ei ladd wedi i gar ei daro ar yr A5114 yn Llangefni.
Mewn achos blaenorol plediodd Daniel Owen, 22 oed, yn euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Ddydd Mawrth gwadodd Jamie Wyn Williams, gyrrwr y car arall, iddo achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Roedd y farwolaeth dridiau ar ôl iddo basio ei brawf.
Roedd Mr Roberts wedi bod allan yn cymdeithasu ym Mangor yn dathlu ei benblwydd.
Cafodd dacsi yn ôl i Langefni ac wrth ddod gamu all ar Ffordd Glanhwfa nesaodd dau gar tuag ato o gyfeiriad y dre' ac fe gafodd ei daro gan gar Vauxhall Corsa arian.
Cafodd ei daflu i'r awyr a chlywodd y rheithgor fod y gyrrwr tacsi wedi gweld y car arall, car Vauxhall Corsa coch, yn cael ei yrru o dan y corff tra oedd yn yr awyr.
Herio ei gilydd
Yn yr araith agoriadol dywedodd Siôn ap Mihangel, ar ran yr erlyniad, fod y ddau yrrwr yn gyfrifol am y farwolaeth.
Fe ddywedodd bod y ddau wedi bod yn herio ei gilydd ar hyd strydoedd Llangefni cyn y ddamwain.
Oherwydd i gar Mr Williams deithio o dan gorff Mr Roberts tra ei fod yn dal yn yr awyr, mae'r erlyniad wedi dweud ei bod hi'n amlwg bod y ddau gar yn "agos at eil gilydd".
Roedd cefnder a ffrind i Mr Williams yn y car ar y pryd.
Glaniodd corff Mr Roberts ganllath o'r tacsi ac roedd yn gwaedu'n drwm. Bu farw yn y fan a'r lle.
Stopiodd y ddau gar cyn i'r gyrwyr gamu allan ond fe yrrodd Mr Williams i ffwrdd yn gyflym i gyfeiriad Caergybi.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 21 Tachwedd 2011
- 6 Mehefin 2012
- 6 Ebrill 2012