Braintree 1-5 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Braintree 1-5 Wrecsam
Enillodd Wrecsam eu gêm oddi cartref yn erbyn Braintree nos Fawrth yn gyfforddus.
Fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio bum gwaith.
Danny Wright roddodd Wrecsam ar y blaen wedi 9 munud, ergyd o bellter i'r gornel chwith.
Fe aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen wedi 16 munud wrth i Brett Ormerod ergydio i'r gornel dde.
Un gôl gafodd y tîm cartref wedi 18 munud wrth i Kaine Sheppard lwyddo i guro'r ceidwad, Joslain Mayebi.
Wedi'r hanner cafodd Wrecsam ddwy gôl arall, Wright gyda'r gynta' wedi 65 munud cyn i Adrian Cieslewicz sgorio.
Doedd pedwar munud o amser ychwanegol am anafiadau ddim yn ddigon i'r tîm cartref daro'n ôl.
Mae'r fuddugoliaeth yn gweld y Dreigiau yn codi yn ôl i'r ail safle, gwahaniaeth goliau yn unig sy'n eu cadw o dan Grimsby sydd â'r un nifer o bwyntiau ac wedi chwarae gêm yn fwy.
Mae Casnewydd yn felly yn syrthio i'r trydydd safle, efo'r un nifer o bwyntiau.
Straeon perthnasol
- 17 Tachwedd 2012
- 10 Tachwedd 2012
- 6 Tachwedd 2012