Adfer hen gerbyd trên tanddaearol Llundain i'w hen ogoniant
- Cyhoeddwyd

Mae cerbyd trên tanddaearol cyntaf y byd wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant, a hynny 120 mlynedd ar ôl iddo gael ei adeiladu.
Fe gymrodd y gwaith adfer 15 mis i grefftwyr Rheilffordd Ffestiniog ar ôl iddyn nhw dderbyn grant o £422,000.
Adeiladwyd cerbyd Jiwbilî dosbarth cyntaf y Rheilffordd Metropolitan yn 1892.
Ond yn fwya diweddar roedd yn cael ei ddefnyddio fel sied gardd.
Ers mis Awst 2011 mae wedi cael ei adnewyddu ac mae 'na werth £700 o aur 23.5 carat.
Mae'n eiddo i Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain.
Dathliad
Ym mis Ionawr fe fydd yn gwneud y daith o Borthmadog i nodi 150 mlwyddiant system danddaearol Llundain.
Mae 92% o'r ffrâm pren yn wreiddiol, ond nid oes modd defnyddio'r goleuadau nwy erbyn hyn oherwydd rheolau iechyd a diogelwch.
Dywedodd Andrew Thomas o Reilffordd Ffestiniog: "Roedd gennym dîm o chwe pherson, gan gynnwys rhai ar brentisiaeth gan fod hynny yn rhan o'r cytundeb gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri, er mwyn dysgu sgiliau newydd i bobl ifanc.
"Roedd mewn cyflwr truenus pan gyrhaeddodd - roedd wedi cael ei ddefnyddio fel sied gyda thoiled wedi ei gysylltu iddo.
"Ond roedd gweld y gwaith gorffenedig yn brofiad arbennig."