Pwll nofio Treherbert yn cael ei ddymchwel
- Cyhoeddwyd
Ar ôl ymgyrch hir, mae pwll nofio Treherbert yn rhan uchaf Cwm Rhondda wedi ei ddymchwel.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cyhuddo o wneud hynny heb ymgynghori gyda phobl yr ardal, gan arwain at bryder am yr effaith ar iechyd pobl gan fod y pwll nofio agosaf bron i bum milltir i ffwrdd yn Ystrad.
Mewn ymateb dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod adeilad y pwll wedi dirywio'n arw ers iddo gau dair blynedd yn ôl.
Roedden nhw'n dweud bod rhaid dymchwel yr adeilad am resymau ariannol a chymdeithasol.
Ond maen nhw'n dweud y bydd y tir ar gael i bobl y pentref ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol.
Gwrthod gwahoddiad
Agorwyd y pwll yn 1936. Ers iddo gau mae pobl leol wedi bod yn ymgyrchu i'w ail agor.
Dywedodd Geraint Davies, un o gynghorwyr Treherbert, bod y cyngor wedi cyhoeddi ar Hydref 22 y byddai'r pwll yn cael ei ddymchwel.
"Fe wnaed hynny heb ymgynghori gyda'r trigolion lleol.
"Wnaeth neb o'r cyngor ddod i'n pwyllgorau a chyfarfodydd cyhoeddus.
"Rydan ni wedi eu gwahodd nhw, ond maen nhw wedi gwrthod."