Apêl ar ôl marwolaeth gyrrwr beic modur ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ar Ynys Môn arweiniodd at farwolaeth dyn ifanc 17 oed.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Iau, Tachwedd 8, am 4:20pm ar y B5110 ym Mrynteg.
Roedd fan Ford Transit gwyn, car BMW glas, car Renault Megane du a beic modur du yn rhan o'r gwrthdrawiad.
O ganlyniad i'r anafiadau a gafodd yn y digwyddiad, bu farw Craig Collin, oedd yn gyrru'r beic modur, yn Ysbyty'r Brifysgol, Stoke, ddydd Gwener, Tachwedd 16.
Roedd Mr Collin yn byw yn lleol. Ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y gwrthdrawiad.
Cefnogaeth a chymorth
Mae'r swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad, Sarjant Jane Thomas o'r Uned Blismona Ffyrdd, wedi cyhoeddi apêl.
"Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar hyd y B5110 rhwng Brynteg a Llangefni ar brynhawn Iau Tachwedd 8, ac a welodd y gwrthdrawiad, i gysylltu â'r heddlu.
"Fel y gallwch ddychmygu, mae teulu Craig mewn trallod, ac yn cael cefnogaeth a chymorth gan swyddog cyswllt teulu arbenigol.
"Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi ysgwyd y gymuned leol, a byddwn yn gofyn i bobl sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu gyda'r heddlu yn syth."
Dywedodd Sarjant Thomas y dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101, neu elusen Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111, gan nodi'r cyfeirnod RC12185472.