George North wedi cael anaf ac allan o dîm Cymru i herio'r Crysau Duon
- Published
image copyrightGetty Images
Fydd George North ddim yn wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Mae'r asgellwr wedi cael anaf i'w glun wrth ymarfer ddydd Mawrth.
Liam Williams fydd yn cymryd ei le ac yn ennill ei ail gap.
Bydd North yn aros gyda'r garfan ar gyfer derbyn triniaeth.
Gobaith hyfforddwyr tîm rygbi Cymru yw y bydd North wedi gwella mewn pryd i herio Awstralia ar Ragfyr 1.
Enillodd Williams ei gap cyntaf wrth i Gymru herio'r Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm y llynedd. Roedd yn rhan o'r garfan deithiodd i Awstralia yn gynharach eleni ond dydi o ddim wedi chwarae dros ei wlad ers y llynedd.
Roedd ar y fainc i herio'r Ariannin bythefnos yn ôl. Mae'r chwaraewr 21 oed yn chwarae'n gyson dros Y Scarlets fel cefnwr.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Tachwedd 2012
- Published
- 22 Tachwedd 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol