Apêl am wybodaeth wedi damwain farwol yng Ngwauncaegurwen
- Published
Mae'r heddlu wedi apelio eto am dystion i wrthdrawiad marwol Ngwauncaegurwen yr wythnos diwethaf.
Cafodd dyn lleol, John Gwyn Edwards, 72 oed, ei ladd.
Roedd wedi ei daro y tu allan i'r clwb rygbi gan gar Vauxhall Corsa glas oedd yn cael ei yrru gan ddyn 19 oed.
Mae'r gyrrwr a gyrrwr 25 oed oedd yn gyrru car Proton du wedi eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
"Dwi'n annog unrhyw un welodd y Corsa a'r Proton yn teithio ar hyd ffordd yr A4069 o Frynaman i Wauncaegurwen i gysylltu â ni," meddai'r Arolygydd Carwyn Evans.
"Roedd y ddau gar yn gyrru drwy'r gymuned wledig am o leiaf ddwy filltir cyn y gwrthdrawiad ac efallai bod gyrwyr eraill neu drigolion yn cofio eu gweld.
"Mae'r Proton yn drawiadol, streipiau arian ar flaen a chefn y car."
Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un â chamerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardal.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 01792 456999.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Tachwedd 2012