Gwynt a glaw yn creu problemau

  • Cyhoeddwyd
llifogydd ar A55
Disgrifiad o’r llun,
Mae trafnidiaeth ar stop ar yr A55 ger Bangor

Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn creu problemau wrth i'r Swyddfa Dywydd broffwydo y bydd y sefyllfa'n gwaethygu.

Mae'r A55, prif ffordd y gogledd, ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cyffyrdd 11 (Bangor) a 12 (Tal-y-bont).

Rhybuddiodd Heddlu'r Gogledd na ddylai'r cyhoedd deithio yn yr ardal os nad oedd hynny'n gwbl angenrheidiol oherwydd y gwynt a'r glaw.

Mae ffyrdd eraill yn yr ardal wedi wynebu problemau a chyngor yr heddlu yw y dylai pobl wrando ar fwletinau tywydd cyn teithio.

'Glaw trymach'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Ers 8am heddiw mae rhannau o Wynedd wedi dioddef glaw trymach na'r hyn a ragolygwyd.

"Ar hyn o bryd mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn ymateb i lifogydd mewn cymunedau ar draws y sir, gan gynnwys ardaloedd nad ydynt yn dioddef llifogydd yn arferol.

Ffynhonnell y llun, Bedwyr Williams
Disgrifiad o’r llun,
Llifogydd yn Rhostryfan, Gwynedd

"Mae staff ychwanegol wedi eu galw i mewn i ddelio gyda'r sefyllfa ac mae sachau tywod yn cael eu rhannu i bobl sydd mewn peryg o ddioddef llifogydd.

"Byddwn yn annog pobl i gymryd gofal wrth yrru, ac i arafu os ydynt yn pasio trwy ddŵr.

"Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n cael trafferthion o achos y tywydd ffonio Galw Gwynedd, sef canolfan gyswllt y Cyngor, ar 01766 771000."

Dihangfa

Mae modd gweld rhybuddion Asianateth yr Amgylchedd ar eu gwefan.

Ar Ynys Môn mae glaw trwm wedi bod yn ardal Amlwch a rhai trigolion wedi cael dihangfa ffodus wrth osgoi cael dŵr yn eu cartrefi.

Mae adroddiadau bod maes carafanau ym mhentref Dulas gerllaw o dan ddŵr er nad oedd unrhyw un yn aros yno ar y pryd, ac mae Ysgol Llanfechell wedi cau brynhawn Iau oherwydd y tywydd.

Roedd y gwynt ar gyflymder o 70 mya yng Nghapel Curig, Conwy, a 62 mya yn Aberdaron, Gwynedd, ac mae llifogydd hefyd ar yr A5 yng Nghapel Curig.

Mae llifogydd ym Modorgan wedi amharu ar deithiau trên rhwng Bangor a Chaergybi.

"Bydd hi'n troi'n hynod o wlyb a gwyntog ar hyd y wlad y pnawn 'ma, yn enwedig ymhellach i'r de rhwng Abertawe a Sir Fynwy lle mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren i fod yn barod am drafferthion teithio," meddai Rhian Haf, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.

"Mae'r gwynt yn hyrddio bron 80 mya yn Eryri ac mae 'na sawl coeden wedi disgyn yn y gwynt."

Roedd glaw trwm yn Rhostryfan a Llanberis.

Dywedodd Cwmni Bysus Padarn nad oedd bysus yn gwasanaethu Llanberis, Brynrefail a Chwm-y-glo oherwydd llifogydd.

Llifogydd

Yn y gorllewin roedd llifogydd yn Nhrewyddel, gwteri wedi gorlifo yn Llandudoch, a choed wedi cwympo yn Stepaside, Summerhill, Tre-fin a Phenfro.

Dywedodd y gwasanaethau brys eu bod wedi eu galw oherwydd problemau yn Hamilton Terrace yn Aberdaugleddau.

Mae'r ffordd ynghau ar hyn o bryd.

Aed â phump i'r ysbyty wedi i gar Peugeot 206 droi drosodd oherwydd y gwynt yn Aberdaugleddau ychydig cyn hanner dydd.

Cafodd y car ei hyrddio yn erbyn ffrynt Banc Barclays a'r gred yw nad oes neb wedi ei anafu'n ddifrifol.

Gan fod coeden wedi cwympo roedd yr A4075 ym Mhenfro ynghau i'r ddau gyfeiriad.

"Mi fydd hi'n stormus iawn wrth i'r ffrynt ledu o'r gorllewin ar hyd y wlad ac mae Asiantaeth yr amgylchedd yn cadw golwg ar afonydd Ynys Môn gan fod 'na bosibilrwydd y byddan nhw'n gorlifo," meddai Rhian Haf.

Ffynhonnell y llun, James Trott
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd James Trott, o Gei Newydd, Ceredigion, bod coeden dderw wedi cwympo yn ei ardd

Cyfyngiadau

Cafodd y lôn tua'r gorllewin ar yr M4 ei chau rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 25 (Caerllion) oherwydd llifogydd.

Oherwydd damwain roedd Pont Hafren (M48) ar gau i'r ddau gyfeiriad.

Ar Bont Llansawel (M4) roedd cyfyngiadau o 40mya.

Roedd amharu ar y gwasanaeth rheilffordd rhwng Caerdydd Canolog a Llundain Paddington.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol