Dyn yn euog o achosi marwolaeth dyn 22 oed o Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Tomos Wyn RobertsFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Tomos Wyn Roberts wedi bod allan ym Mangor cyn cael ei ladd

Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd Jamie Williams, 19 oed o Fangor, yn euog o achosi marwolaeth peldroediwr ifanc drwy yrru'n beryglus.

Roedd y rheithgor yn trafod am awr.

Cafodd Tomos Wyn Roberts, 22 oed, ei daro gan gar wrth gerdded ar hyd yr A5114 yn Llangefni yn Nhachwedd y llynedd.

Fe fydd Williams a Daniel Owen, 22 oed, blediodd yn euog eisoes i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.

Pen-blwydd

Roedd Williams wedi gwadu'r cyhuddiad ac roedd y farwolaeth dridiau ar ôl iddo basio ei brawf.

Dywedodd y barnwr y byddai "cyfnod hir yn y carchar" oherwydd "trosedd ofnadwy".

Clywodd y llys fod Mr Roberts wedi bod allan ym Mangor yn dathlu ei ben-blwydd.

Cafodd dacsi yn ôl i Langefni ac wrth gamu allan ar Ffordd Glanhwfa nesaodd dau gar tuag ato o gyfeiriad y dre' ac fe gafodd ei daro gan gar Vauxhall Corsa arian.

Cafodd ei daflu i'r awyr a chlywodd y rheithgor fod y gyrrwr tacsi wedi gweld y car arall, car Vauxhall Corsa coch, yn cael ei yrru o dan y corff tra oedd yn yr awyr.

Herio ei gilydd

Dywedodd Siôn ap Mihangel, ar ran yr erlyniad, fod y ddau yrrwr wedi achosi'r farwolaeth.

Roedd y ddau, meddai, wedi bod yn herio ei gilydd ar hyd strydoedd Llangefni cyn y ddamwain.

Oherwydd i gar Mr Williams deithio o dan gorff Mr Roberts tra ei fod yn yr awyr, dywedodd yr erlyniad fod y ddau gar yn "agos at ei gilydd".

Glaniodd corff Mr Roberts ganllath o'r tacsi ac roedd yn gwaedu'n drwm. Bu farw yn y fan a'r lle.

Stopiodd y ddau gar cyn i'r gyrwyr gamu allan ond fe yrrodd Mr Williams i ffwrdd yn gyflym i gyfeiriad Caergybi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol