Buddsoddiadau: Arian dal yn ddyledus
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dal i geisio ad-daliadau o £27 miliwn gan fanciau Gwlad yr Ia a aeth i'r wal yn 2008.
Pan ddigwyddodd y cwymp ariannol roedd wyth o gynghorau lleol Cymru a thri o'r lluoedd heddlu wedi buddsoddi £66 miliwn mewn banciau neu eu his-gwmnïau yng Ngwlad yr Ia.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot oedd a'r buddsoddiad mwyaf - £20 miliwn. Hyd yn hyn maen nhw wedi llwyddo cael ad-daliad o tua 60% o'r arian, £12 miliwn.
Cyngor arall oedd wedi buddsoddi'n sylweddol oedd Caerffili - £15 miliwn - ac maen nhw wedi llwyddo cael dros £9 miliwn yn ôl.
Roedd Awdurdod Heddlu De Cymru wedi buddsoddi £7 miliwn, ac maen nhw wedi derbyn tua hanner yr arian yn ôl.
Prifysgolion
Cafodd yr arian ei fuddsoddi pan oedd y banciau yn ffynnu nôl yn 2008 - ac ar un adeg roedd banciau yn cynnig cyfraddau llog o 18%. .
Pan aeth Landsbanki a banciau eraill i drafferthion enbyd yn hydref 2008 roedd ganddynt bron i £1 biliwn o arian wedi ei fuddsoddi gan wahanol awdurdodau o'r DU.
Hyd yma mae'r cyrff cyhoeddus wedi cael gafael ar tua £700 miliwn o'r arian sy'n ddyledus.
Mae'r rhan fwyaf o unigolion oedd wedi buddsoddi yn y banciau wedi derbyn iawndal drwy Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.
Roedd tri o brifysgolion Cymru - Glyndŵr, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru wedi buddsoddi tua £38.2 miliwn ym manciau Gwlad yr Ia.
Maen nhw wedi sicrhau ad-daliad o ychydig dros £6.5 miliwn.
Straeon perthnasol
- 5 Ebrill 2011
- 9 Hydref 2008