Carchar am achos marwolaeth dyn 22 oed o Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd dau yrrwr eu hanfon i garchar am achosi marwolaeth dyn yn Llangefni.
Cafodd Daniel Owen, 22 oed, yn wreiddiol o Tŷ Croes, ei anfon i garchar am chwe mlynedd ac wyth mis, a charcharwyd Jamie Wyn Wililams 19 oed o Fangor am bum mlynedd.
Ddoe penderfynodd rheithgor fod Williams yn euog o achosi marwolaeth Tomos Wyn Roberts, 22 oed o Langefni, drwy yrru'n beryglus.
Roedd Owen eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad tebyg.
Taflu i'r awyr
Cafodd Mr Roberts ei daro gan gar wrth gerdded ar hyd yr A5114 yn Llangefni yn Nhachwedd y llynedd.
Dywedodd y barnwr Niclas Parry fod yr achos yn dangos peryglon rasio.
Clywodd y llys fod y ddau yrwr wedi bod yn herio ei gilydd ar hyd strydoedd Llangefni cyn y ddamwain.
Cafodd Mr Thomas ei daro cyn cael ei daflu i'r awyr gan gar Vauxhall Corsa arian oedd yn cael ei yrru gan Owen.
Clywodd y rheithgor fod y gyrrwr tacsi wedi gweld y car arall, car Vauxhall Corsa coch yn cael ei yrru gan Williams, yn cael ei yrru o dan y corff tra oedd yn yr awyr.
Glaniodd corff Mr Roberts ganllath o'r tacsi ac roedd yn gwaedu'n drwm.
Bu farw yn y fan a'r lle.
Stopiodd y ddau gar cyn i'r gyrwyr gamu allan ond fe yrrodd Williams i ffwrdd yn gyflym i gyfeiriad Caergybi.
Straeon perthnasol
- 22 Tachwedd 2012
- 21 Tachwedd 2011
- 6 Mehefin 2012
- 6 Ebrill 2012