Agor drysau Canolfan y Mileniwm
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn agor ei drysau ar gyfer ei Phenwythnos Agored ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Bydd amrywiaeth o berfformiadau am ddim, yn cynnwys perfformiadau byw gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac aelodau o'r cast Dirty Dancing.
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr sgwrsio ag aelodau staff y Ganolfan a chael cyngor gyrfa, gwybodaeth profiad gwaith a chymorth ysgrifennu CV.
Ddydd Sul, gall ymwelwyr fwynhau cipolwg ar waith tîm Digwyddiadau'r Ganolfan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer priodas.
Dywedodd Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Bydd Canolfan Mileniwm Cymru a'i chwmnïau preswyl yn dod at ei gilydd i roi penwythnos cyfan o weithgareddau am ddim i ymwelwyr.
"Mae'n gyfle gwych i gynnig golwg go iawn ar y celfyddydau i'n hymwelwyr gan ddangos yr hyn sydd gan y Ganolfan i'w gynnig a bod y celfyddydau yn hygyrch i bawb.
"Mae rhywbeth i blant bach ac i oedolion fel ei gilydd, gydag amrywiaeth mawr o weithgareddau'n digwydd dros y penwythnos i gyd."
Straeon perthnasol
- 22 Ionawr 2009
- 7 Tachwedd 2007