Cwmni pizza: 200 arall yn colli eu gwaith yn Sir y Fflint
- Published
Bydd ffatri pizza Paramount Foods yn Sir y Fflint yn cael ei chau'r wythnos nesa.
Fe fydd 200 o weithwyr yno yn colli eu swyddi.
Fe gafodd y busnes ar Lannau Dyfrdwy ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ddechrau Hydref.
Roedd y gweinyddwyr, David Whitehouse a Sarah Bell o Duff & Phelps, Manceinion, wedi ceisio dod o hyd i brynwr.
Colli cytundeb
Cafodd y gweithlu ei hysbysu gan y gweinyddwyr y byddai'r ffatri'n cau ar Dachwedd 30.
Roedd gwaelod y pizzas yn cael eu pobi mewn ffatri yn Salford, fydd yn cau ddydd Mercher nesaf, cyn y cam olaf ar y safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Roedd dros 100 o weithwyr y ffatri eisoes wedi colli eu swyddi.
Collodd y cwmni gytundeb gydag un o'u cyflenwyr mwya' yn ddiweddar, Morrisons.
Cyn hynny roedd y cwmni'n un o brif gynhyrchwyr pizzas ym Mhrydain.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Hydref 2012
- Published
- 9 Hydref 2012
- Published
- 8 Hydref 2012