BBC Cymru Fyw

Damwain farwol: Apêl am dystion

Published
Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ar ôl damwain angheuol ym Maerun ar gyrion Casnewydd nos Wener
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan Ford Transit wen a char Proton Persona gwyrdd tua 8.05 pm.
Cafodd gyrrwr y Proton, dyn 33 oed o Faerun, anafiadau difrifol a bu farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent.
Ni anafwyd unrhyw un arall yn y ddamwain.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y ddamwain gysylltu ar heddlu ar 101 neu 01633 642404.