Cymru 10-33 Seland Newydd
- Cyhoeddwyd

Cymru 10 - 33 Seland Newydd
Er i Gymru roi perfformiad gwell na'r hyn a welwyd yn erbyn yr Ariannin a Samoa doedd o dal ddim yn ddigon i herio pencampwyr y byd.
Roedd y gêm i bob pwrpas drosodd erbyn yr hanner cyntaf, er i Gymru lwyddo i groesi am ddau gais yn yr ail hanner.
Dyw Cymru heb guro'r Crysau Duon ers 1953.
Roedd yr hyfforddwr Warren Gatland yn ôl wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn ei famwlad.
Roedd Cymru ar ei hol hi 6-0 ar ôl 18 munud ar ôl dwy gic gosb i'r ymwelwyr.
Ond hefyd roedd yna dri o chwaraewyr Cymru wedi gorfod gadael y maes gydag anafiadau.
Jamie Roberts, y prop Aaron Jarvis ac yn fwy dadleuol Bradley Davies.
Cafodd Davies ei lorio gan dacl anghyfreithlon gan Andrew Hore.
Ceisiadau gan Messama Woodcock estynodd mantais yr ymwelwyr cyn yr egwyl.
Ar ôl yr hanner croesodd Luke Romano i'r ymwelwyr, cyn Scott Williams ac Alex Cuthbert adfer ychydig o hunan barch.
Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Rhys Priestland,Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees, Aaron Jarvis, Bradley Davies,Luke Charteris, Ryan Jones,Sam Warburton (capten), Toby Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Scott Andrews, Aaron Shingler, Justin Tipuric, Tavis Knoyle,James Hook, Scott Williams.
Seland Newydd: Israel Dagg, Cory Jane, Conrad Smith, Ma'a Nonu, Julian Savea, Aaron Cruden, Aaron Smith; Tony Woodcock, Andrew Hore, Owen Franks, Luke Romano, Sam Whitelock, Liam Messam, Richie McCaw (capten), Kieran Read.
Eilyddion: Dane Coles, Wyatt Crockett, Charlie Faumuina, Brodie Retallick, Victor Vito, Piri Weepu, Beauden Barrett, Ben Smith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2012