Abertawe 0-0 Lerpwl
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Bu'n rhaid i Abertawe fodloni ar un pwynt yn erbyn eu cyn reolwr Brendan Rodgers.
Di-sgor oedd hi ar Stadiwm y Liberty gan olygu fod Abertawe yn codi i'r wythfed safle yn yr Uwchgynghrair.
Ashely Williams ddaeth agosaf i'r tîm cartref, ei beniad cryf yn cael ei glirio oddi ar y llinell gan gyn chwaraewr yr Elyrch Joe Allen.
Llwyddodd Jose Enrique i gael y bel yn y rhwyd ond penderfynodd y dyfarnwr ei fod o'n cam sefyll.
Daeth Raheem Sterling hefyd yn agos i'r ymwelwyr, ei foli yn taro yn erbyn y trawst.