Gohirio cynllun ehangu Prifysgol Morgannwg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall bod prosiect ehangu Prifysgol Morgannwg ar gost o £15 miliwn yng Nghaerdydd wedi cael ei ohirio.
Roedd disgwyl i gampws Atrium ehangu ar gyfer dechrau tymor 2014.
Y rheswm am y gohirio, mae'n debyg, yw gostyngiad yn nifer y myfyrwyr.
Fe ddaw hyn wrth i'r brifysgol uno gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd.
Roedd Atrium 2 i fod i "adlewyrchu hyder Prifysgol Morgannwg yn ei pherthynas â myfyrwyr a busnes".
Cyhoeddwyd ym mis Mawrth y bwriad i ehangu ac ar y pryd dywedodd y brifysgol y byddai hyn yn golygu lle ychwanegol ar gyfer 1,200 o fyfyrwyr yn yr Ysgol Diwydiant Creadigol a Diwylliannol.
800
Yn ôl ffynhonellau o du fewn y brifysgol, mae hynny'n rhannol oherwydd bod llawer llai o fyfyrwyr wedi cofrestru yn y brifysgol eleni, amcangyfrif o 800 yn llai na'r disgwyl.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol y bydden nhw'n penderfynu'r flwyddyn nesa pryd y bydd yr ehangu'n digwydd.
Mae rhai'n poeni y bydd y cynllun yn cael ei roi o'r neilltu wrth i drafodaethau am yr uno barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol fod eu hymrwymiad i ehangu'r ddarpariaeth yng Nghaerdydd yn "llwyr".
"Rydym yn gweithio gyda datblygwyr ac fe fyddwn yn penderfynu pryd y bydd y cynlluniau'n ateb y galw o ran ein twf yn 2013.
"Mae cyflwyno cynlluniau ar gyfer Atrium 2 dros y cyfnod yn golygu bod modd i ni asesu'r farchnad addysg uwch.
"Efallai y bydd penderfyniad wrth i ni drafod ein cynlluniau ar gyfer y brifysgol newydd."
Straeon perthnasol
- 27 Mawrth 2012
- 29 Tachwedd 2007
- 6 Tachwedd 2012
- 23 Tachwedd 2012