Apêl wedi ymosodiad ar ferch ar lwybr beicio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ymosodiad difrifol ar ferch 15 oed ar lwybr beicio dros y penwythnos.
Fe ddigwyddodd tua 5pm ddydd Sul ar y rhan o'r llwybr sy'n cysylltu Pontycymmer a Phontrhyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ymosodwyd ar y ferch gan y dyn wrth iddo deithio ar feic ar hyd y llwybr.
Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae'r dyn yn wyn, tal a thenau ac yn ei ugeiniau.
Roedd yn gwisgo siwmper wen gyda hwd a jîns lliw tywyll ar y pryd.
Mae ganddo wallt du a thlws hir yn un o'i aeliau.
Roedd ganddo acen Saesnig.
Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un a oedd ar y llwybr beicio tua 5pm nos Sul, a allai fod wedi gweld dyn ar ei feic yn ymddwyn yn amheus, i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r swyddfa heddlu ym Mhen-y-bont ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.