Ysgoloriaeth i chwilio am ffermwr ifanc i reoli fferm Llyndy Isaf yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Wedi ymgyrch lwyddiannus i ddiogelu ei dyfodol i'r genedl mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol nawr yn edrych am ffermwr ifanc i reoli, ac i fyw ar un o ffermwydd godidog Eryri.
Cafodd £1 miliwn o bunna' ei gasglu i brynnu Llyndy Isaf ger Beddgelert.
Dyma'r tro cyntaf i'r ysgoloriaeth gael ei chynnig i redeg y fferm 600 erw.
Mewn ychydig dros saith mis llwyddodd apêl gefn gwlad fwyaf yr ymddiriedolaeth ers dros 10 mlynedd ddiogelu dyfodol y fferm fynydd ger Llyn Dinas.
Fe fydd yr ysgoloriaeth yn cael ei chynnig yn flynyddol.
"Mae hwn yn gyfle gwych i alluogi ffermwr ifanc i redeg y fferm", meddai Rheolwr Cyffredinol yr ymddiriedolaeth ar gyfer Eryri a Llŷn, Trystan Edwards.
"Gyda thîm yr ymddiriedolaeth y tu ôl iddyn nhw i gynnig cyfarwyddyd a chefnogaeth, bydd gan enillydd yr ysgoloriaeth 12 mis i wneud yr holl benderfyniadau o ddydd-i-ddydd i reoli'r fferm eiconig hon."
Rhywogaethau bywyd gwyllt
Yr actor Matthew Rhys wnaeth arwain yr apêl i ddiogelu'r fferm.
Hefyd fe wnaeth Catherine Zeta Jones, Ioan Gruffudd a'r cyflwynwyr teledu, Iolo Williams a Kate Humble, gefnogi'r ymgyrch.
Mae Llyndy Isaf yn un o'r mannau amgylcheddol pwysig yn Eryri yn ôl yr ymddiriedolaeth.
Dydi'r tir ddim wedi ei gyffwrdd gan ffermio dwys ac mae'n gartref i lawer o rywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad ac o bwysigrwydd rhyngwladol - fel glas y dorlan, y dyfrgi a'r frân goesgoch.
Daeth yr ymgyrch i godi'r £1 miliwn 13 blynedd ers i Syr Anthony Hopkins gyfrannu swm sylweddol at apêl flaenorol yr Ymddiriedolaeth yn 1988 i "Arbed Yr Wyddfa" a phrynu stad Hafod y Llan am £3.5 miliwn.
Straeon perthnasol
- 16 Tachwedd 2011
- 16 Tachwedd 2011
- 19 Hydref 2011
- 10 Hydref 2011
- 9 Mai 2011
- 29 Mawrth 2011
- 6 Gorffennaf 2011