Teulu Gary Speed yn son am eu 'blwyddyn anodd'
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn ers marwolaeth Gary Speed, mae ei dad wedi bod yn dweud bod yr "holl deyrngedau o bedwar ban byd wedi helpu'r teulu" i ymdopi.
Cafwyd hyd i gorff Mr Speed, 42 oed, yn ei gartref yn Huntington ger Caer ar Dachwedd 27 2011.
Dywedodd Roger Speed bod hi'n dal yn anodd credu'r hyn ddigwyddodd.
"Ry' ni'n dal i ofyn pam," meddai.
"Roedd ganddo bopeth.
"Mae hi wedi bod yn 12 mis anhygoel.
"Mae Carol fy ngwraig wedi ei chael yn anodd iawn, iawn."
Helpu'r wyrion
Dywedodd ei bod wedi dechrau chwarae ychydig o golff a gwneud ychydig o siopa gyda'i ffrindiau.
"Ond dyw hi ddim eisiau codi o'r gwely yn y bore, ac mae hi'n mynd i'r gwely yn gynnar yn y nos," ychwanegodd.
Eglurodd Mr Speed ei fod yn cadw ei hun yn brysur.
Mae'n helpu ei wyrion, Ed a Tommy.
"Dwi wedi ymdopi yn weddol gan fy mod i'n edrych ar ôl y ddau fachgen," eglurodd.
"Maen nhw wedi bod yn wych, mae hynny wedi fy nghadw i fynd."
Bydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn rhoi teyrnged i'r cyn-chwaraewr a chyn-reolwr ddydd Mawrth.
Bydd ei ddelwedd y tu allan i'w swyddfeydd yng Nghaerdydd yn cael ei oleuo a bydd staff yn gosod blodau y tu allan fel arwydd o barch.
Yn ôl Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford: "Nid rheolwr ein tîm cenedlaethol yn unig y bu i ni golli'r diwrnod hwnnw, ond cyfaill a chydweithiwr hefyd.
"Heddiw, fel bob diwrnod arall, mae ein meddyliau gyda theulu Gary - ei wraig Louise, ei feibion Ed a Tom, ei rieni Roger a Carol a'i chwaer Lesley."
- Darlledwyd rhaglen arbennig, Cofio Gary, ar BBC Radio Cymru ac mae modd gwrando eto ar y we.
Straeon perthnasol
- 15 Mai 2012
- 30 Ionawr 2012
- 4 Ionawr 2012
- 9 Rhagfyr 2011