BBC Cymru Fyw

Tân: Dyn yn ei 70au wedi marw ym Mhrestatyn

Published

Mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhrestatyn.

Cafodd diffoddwyr eu galw i Beverley Drive yn y dref nos Lun.

Anfonwyd tair injan dân o'r Rhyl a Phrestatyn i ddiffodd y fflamau cyn i ddiffoddwyr ddod o hyd i'r dyn yn y tŷ.

Bu farw'r dyn yn ddiweddarach.

Mae Heddlu'r Gogledd a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymchwiliad i ganfod sut ddechreuodd y tân.

Dolenni perthnasol ar y we

  • Heddlu Gogledd Cymru

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol