Faint yn fwy sy'n marw yn y gaeaf?
- Published
Bydd ystadegau sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau yn dangos faint yn fwy o bobl sy'n marw yn y gaeaf ym mhob ardal o Gymru a Lloegr.
Dyma'r tro cyntaf i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi ffigyrau ar gyfer pob awdurdod lleol yn y ddwy wlad.
Yn y gorffennol roedd yn rhaid gwneud cais penodol er mwyn cael y wybodaeth.
Fel mewn nifer o wledydd eraill, mae mwy o bobl yn marw yn y gaeaf yng Nghymru a Lloegr nag yn ystod yr haf.
Y diffiniad swyddogol o'r gaeaf yw'r cyfnod rhwng Rhagfyr a Mawrth.
Bydd y ffigyrau yn gosod y marwolaethau mewn grwpiau rhyw a'u cymharu â'r gaeaf blaenorol, a hefyd yn dangos nifer y bobl dros saith deg pump oed sy'n marw yn nhymor y gaeaf.
Fe fyddan nhw hefyd yn cymharu patrymau hanesyddol cyn belled yn ôl â 1950/51.
Yn bwysicach efallai, bydd y ffigyrau hefyd yn cymharu marwolaethau gaeafol yr holl awdurdodau lleol, ac yn ystyried gwahaniaethau daearyddol rhwng Lloegr a Chymru.
Bydd y ffigyrau'n cael eu cyhoeddi am 9:30am fore Iau, Tachwedd 29.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Tachwedd 2010
- Published
- 4 Hydref 2010