Achub menyw o afon ym Machen

  • Cyhoeddwyd

Cafodd menyw ei hachub fore Iau ar ôl i'w char lithro oddi ar y ffordd ac i mewn i afon.

Roedd y fenyw yn gyrru ar hyd Commercial Road ym Machen pan ddigwyddodd y ddamwain tua 7:00am.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân o Gasnewydd ddefnyddio rhaffau i dynnu'r fenyw o'r cerbyd.

Mae hi yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Bu'n rhaid i fenyw arall gael triniaeth ar ôl i hithau bod mewn damwain ar yr un pryd ar y darn honno o'r ffordd.