Artist o Mecsico yn ennill Gwobr Artes Mundii 2012
- Published
Yr artist Teresa Margolles o Fecsico sydd wedi ennill gwobr Artes Mundi eleni.
Cyhoeddwyd yr enillydd, sydd wedi ennill £40,000 mewn seremoni gafodd ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nos Iau.
Mae gwaith y saith artist oedd ar y rhestr fer, gan gynnwys Ms Margolles yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa tan Ionawr 13 2013 fel rhan o'r gystadleuaeth.
Mae dros 30,000 o bobl eisoes wedi ymweld â'r arddangosfa yn ôl trefnwyr y gystadleuaeth.
Troseddau
Artistiaid o Cuba, India, Lithuania, Mecsico, Slofenia, Sweden a Llundain a gyrhaeddodd restr fer gystadleuaeth gelf gyfoes fwyaf y DU.
Dywedodd cadeirydd y panel o feirniaid, y darlledwr a churadur Tim Marlow, fod gwaith Teresa Margolles "yn bwerus ac yn soffistigedig".
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiad cymdeithasol Gogledd Mecsico lle mae llawer o bobl wedi eu llofruddio o ganlyniad i droseddau sy'n ymwneud â chyffuriau.
Hon yw'r bumed flwyddyn i Artes Mundi gael ei chynnal - a gweithred a pherfformiad oedd yn cysylltu'r artistiaid eleni.
Bydd pob un o'r artistiaid eraill ar y rhestr fer yn cael gwobr newydd o £4,000 yr un.
Oherwydd partneriaeth newydd gydag oriel Mostyn yn Llandudno bydd un o'r artistiaid artist ar y rhestr fer yn cyflwyno sioe unigol yno yn 2013.
Y saith artist ar y rhestr fer oedd Miriam Bäckström (Sweden); Tania Bruguera (Cuba); Phil Collins (Lloegr); Sheela Gowda (India); Teresa Margolles (Mecsico); Darius Mikšys (Lithuania) ac Apolonija Šušteršič (Slofenia).
Roedd dros 750 o enwebiadau, gan gynnwys 576 o artistiaid unigol o dros 90 o wledydd.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Hydref 2012
- Published
- 26 Ionawr 2012
- Published
- 27 Ionawr 2012
- Published
- 29 Gorffennaf 2011
- Published
- 19 Ebrill 2011
- Published
- 19 Mai 2010
- Published
- 25 Ebrill 2008
- Published
- 28 Medi 2007
- Published
- 11 Chwefror 2006
- Published
- 31 Mawrth 2006
- Published
- 11 Chwefror 2006
- Published
- 28 Medi 2005
- Published
- 28 Mawrth 2004
- Published
- 28 Mawrth 2004